10 RHESWM DROS DDEWIS ORGANIG

Mae dewis organig wrth wraidd popeth a wnawn. Darllenwch isod ein 10 rheswm dros ddewis organig a sut y gallwch chi wneud eich rhan i achub natur a’n hamgylchedd.

10 rheswm dros ddewis organig- 

  • Ffermio organig yw’r unig ddull cynhyrchu sydd ag ymrwymiadau cyfreithiol-rwymol ar les anifeiliaid, defnydd o dir a diogelu’r amgylchedd.
  • Rhaid i wartheg organig allu pori pan fo amodau’n caniatáu a rhaid i 60% o’u diet ddod o borthiant, h.y. glaswellt, gwair a silwair.
  • Gwell i fywyd gwyllt – ni ddefnyddir unrhyw wrtaith cemegol artiffisial, plaladdwyr na chwynladdwyr ar ein tir ac nid ydym yn darparu ychwanegion porthiant gwrthfiotig ar gyfer ein da byw. Mae ffermio organig yn annog mwy o amrywiaeth ac yn cynyddu poblogaethau peillwyr. Mae bod yn gyfeillgar i natur yn flaenoriaeth allweddol i ni, a dyna pam mae holl ffermwyr Calon Wen yn cymryd rhan ym mhrosiect Calon Gwenyn, i helpu i gynyddu poblogaethau peillwyr gyda chymorth gan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn.
  • Ein nod yw maethu planhigion yn naturiol, trwy adeiladu priddoedd ffrwythlon. Mae ffermwyr yn gwneud hyn gan ddefnyddio meillion a chodlysiau i ‘drwsio nitrogen’ a hybu iechyd y pridd, yn ogystal â defnyddio compost, tail anifeiliaid a thail gwyrdd.
  • Mae pob ffermwr yn magu eu hanifeiliaid i safonau organig sy’n golygu bod yn rhaid eu magu’n naturiol heb unrhyw driniaethau heblaw gwrthfiotigau a ddefnyddir pan fyddant yn sâl yn unig.
  • Gwell i’r amgylchedd – annog pridd iach sy’n llawn maetholion. Mae pridd iach yn storio mwy o garbon.
  • Arwain y ffordd ar gynaliadwyedd.
  • Pe bai holl dir ffermio Ewrop yn dilyn egwyddorion organig, gallai allyriadau amaethyddol ostwng 40-50% erbyn 2050.
  • Mae gan laeth organig mwy o asid brasterog omega-3 buddiol, Fitamin E, beta-carote, haearn, lutein a zeaxanthin na llaeth anorganig.
  • Mae gan laeth organig y DU lefelau 68% yn uwch o’r asid brasterog hanfodol na llaeth anorganig. 

Darllen Mwy

6 BUDD IECHYD LLAETH

Dydd Llun 1 Mehefin yw 20fed Pen-blwydd Diwrnod Llaeth y Byd. I ddathlu pwysigrwydd llaeth fel bwyd byd-eang, ac i ddathlu’r sector cynnyrch llaeth rydym wedi creu ffeithlun i dynnu sylw at 6 Budd Iechyd sy’n gysylltiedig ag yfed llaeth. #WorldMilkDay #EnjoyDairy

Gweld Mwy

BETH YW MEDI ORGANIG?

Mae Medi Organig yn ymwneud â dathlu popeth organig, gan roi sylw i gynhyrchwyr organig gweithgar i gydnabod eu gwaith a’u hymroddiad i weithio gyda byd natur, nid yn ei erbyn. Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi gweld newidiadau enfawr i’n byd, a nawr yn fwy nag erioed mae’n bryd i ni ddechrau chwilio am atebion

Gweld Mwy

ORGANIG O GYMHARU AG ANORGANIG

Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn y British Journal of Nutrition yn dangos bod llaeth a chig organig yn cynnwys tua 50% yn fwy o asidau brasterog omega-3 buddiol na chynhyrchion a gynhyrchir yn gonfensiynol. Croesawn yr adroddiad hwn gan ei fod yn cadarnhau’r hyn yr ydym ni yn Calon Wen erioed wedi’i honni am

Gweld Mwy
Calon Wen