coop milk, ethical milk, ethical dairy, cruelty free milk, order milk online, organic cows milk, ethical cows milk, buy organic milk online, grass fed milk, organic pasteurized milk, milk order online, organic semi skimmed milk, organic whole milk

Lleihau ein gwastraff llaethy adref

Syniadau ar sut i leihau ein gwastraff llaethy adref.

Oeddech chi’n gwybod bod hanner miliwn tynnell o gynhyrchion llaethdy yn cael eu gwastraffu pob blwyddyn- mae 90% o hyn yn cael eu gwastraffu yn ein cartrefi! Gallwn gweithio gydai’n gilydd i leihau y swm yma! Yn peintiau, mae hyn yn gyfartalu i 490 miliwn o beintiau sy’n cael eu gwastraffu yn ein cartrefi.

Oherwydd hyn, hoffem awgrymu syniadau ar sut I leihau eich gwastraff ac sy’n bosib i  ni gyd i wneud. Bydd y gwellianau yma yn wneud gwahaniaeth arwyddocaol i wastraf bwyd. Yn ogsytal â hyn, mae arbed bwyd yn olygu arbed arian, ac yn well nag hyn- mae’n achub ein planed.

  1. Cadwch lygaid ar eich thermomedr ar eich oergell. Gosodwch eich oergell o dan 5 gradd Celsius i atal mwy nag 50,000 tunnell o wastraff llaeth pob blwyddyn a bydd hyn hefyd yn helpu chi fel cwsmer i arbed arian yn y tymor hir.
  2. Gwnaeth WRAP adnabod wrth newid y tymheredd ar eich oergell i o dan 5 gradd Celsius, gallwch arbed £70 y mis.
  3. I wneud hyn yn rhwyddach ac i ymgorffori i mewn i’ch trefn ddyddiol, cadwch thermomedr yn eich oergell. Pob tro wnewch chi agor yr oergell, gallwch gadw llygaid ar y thermomedr.
  4. Os ydych yn coginio/paratoi prydiau bwyd a hoffech chi gadw bwyd wedi’u coginio mewn yn oergell, sicrhewch fod y bwyd wedi ddadgynhesu (rydym yn argymell aros 2 awr) i osgoi salmonela a gwastraff bwyd.
  5. Storio caws- os ydych wedi agor caws caled, lapiwch gyda’n ‘Beeswax Cheese Wraps’ (link). Osgoi lapio mewn plastig oherwydd mae’n bosib iddo ddatblygu blas amoniac a phosibiliad o facteria niweidiol.
  6. A oeddech chi’n gwybod mae’n bosib rhewi menyn a llaeth? Gall menyn cael ei rhewi hyd at 12 mis a blociau o fenyn hyd at 18 mis. I ddadrewi, gall menyn cael ei ddadrewi yn y ficrodon. Rydym yn argymell defnyddio’r opsiwn ddadrewi neu ar opsiwn isel am y canlyniad orau.
  7. Ar gyfer llaeth- osgoi rhewi ar ôl y dyddiad ar ei orau cyn oherwydd ni fydd rhewi yn atgyweirio ei ffresni. Ni’n argymell bwyta o fewn y mis cyntaf o rewi. I arbed lle yn y rhewgell, gallwch arllwys y llaeth i mewn i hambwrdd iâ, sy’n berffaith ar gyfer eich coffi iâ neu eich smwddi! Er bod pob math o laeth medru cael eu rhewi, mae llaeth lled fedrus (semi skimmed) yn fwy cyfleus i rewi. Dydyn ni ddim yn argymell rhewi ym mhoteli gwydr oherwydd fe all y gwydr ffrwydro. Mae rhewi yn achosi’r llaeth i ehangu, nid yw hyn yn broblem- ond rydym yn argymell i adael digon o le rhwng y llaeth a’r top.
  8. Y ffordd fwyaf diogel i doddi llaeth yw ei rhoi yn yr oergell. Rhowch y cynhwysydd sy’n dal y llaeth mewn i’r oergell ac arhoswch nes iddo ddod yn hylif eto. Gall hwn cymered oriau- felly tip ni fydd i’w wneud y noson cyn, barod am eich te neu goffi yn y bore!
  9. Ni ddylid llaeth wedi’i rhewi cael ei adael allan ar y cownter i ddadrewi oherwydd mae’n bosib iddo ddatblygu bacteria.
  10. Beth i neud â chaws wedi llwydo? Os mae’n gaws caled, gallwch dorri 2.5cm o amgylch y llwydni a bydd y gweddill yn ddigon diogel i fwyta.

Oes oes gennych unrhyw syniadau gwahanol ar sut i leihau ein gwastraff llaethdy adref a hoffech chi rannu â phawb, byddwn yn ddwli glywed nhw! Anfonwch e-bost i marketing@calonwen-cymru.com.

Darllen Mwy

Bwrdd Cawsiau Nadolig Calon Wen

Amser i roi a rhannu yw’r Nadolig yn draddodiadol. Nid yw’n syndod, felly, bod y bwrdd cawsiau Nadolig yn gymaint rhan o’n traddodiad o ran bwyd erbyn hyn â’r gacen Nadolig neu’r twrci!

Gweld Mwy

ORGANIG O GYMHARU AG ANORGANIG

Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn y British Journal of Nutrition yn dangos bod llaeth a chig organig yn cynnwys tua 50% yn fwy o asidau brasterog omega-3 buddiol na chynhyrchion a gynhyrchir yn gonfensiynol. Croesawn yr adroddiad hwn gan ei fod yn cadarnhau’r hyn yr ydym ni yn Calon Wen erioed wedi’i honni am

Gweld Mwy

GELLIR COMPOSTIO 100% O BECYNNAU MENYN NEWYDD CALON WEN – GAN GYNNWYS YR INC!

RYDYM YN FALCH IAWN O ALLU CYHOEDDI BOD EIN MENYN ORGANIG BLASUS BELLACH YN DOD I CHI WEDI EI LAPIO YN GARIADOL MEWN PECYN Y GELLIR EI GOMPOSTIO 100%. Pam fod cael labeli y gellir eu compostio yn well na chael labeli bioddiraddadwy? Mae ein pecyn menyn Calon Wen, fel pob deunydd y gellir ei

Gweld Mwy
Calon Wen