CWESTIYNAU CYFFREDIN

CWESTIYNAU CYFFREDIN

Dyma ddetholiad o'n cwestiynau mwyaf cyffredin - os nad oes ateb i'ch cwestiwn yma, cysylltwch â moo@calonwen-cymru.com, neu anfonwch neges atom ar gyfryngau cymdeithasol!

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am Ffermio Organig, ewch i www.ofgorganic.org. Beth am ymweld â fferm organig? Cysylltwch â ni a gallwn drefnu ymweliad i chi

Ffermio organig yw'r unig ddull cynhyrchu sydd ag ymrwymiadau cyfreithiol-rwymol ar les anifeiliaid, defnydd o dir a diogelu'r amgylchedd. Yn Calon Wen rydym yn dilyn yr hyn a ddisgrifiwn fel dull cyfannol o ffermio sef yr awydd i roi beth bynnag a gymerir allan o adnodd naturiol yn ôl i mewn. Nid ydym yn defnyddio gwrteithwyr cemegol artiffisial ar ein tir nac yn darparu ychwanegion bwyd anifeiliaid gwrthfiotig i'n da byw. Mae ein dulliau ffermio organig yn seiliedig ar ddulliau naturiol o ffermio fel rheoli plâu biolegol a chylchdroi cnydau ac mae'r gwartheg yn mwynhau'r bywyd awyr agored am ¾ y flwyddyn, sy'n golygu digon o amser i bori'r caeau llawn meillion ynghyd â digon o awyr iach ac ymarfer corff. I aelodau Calon Wen, mae hyn yn golygu bridio gwartheg godro gwydn sy'n mwynhau byw yn yr awyr agored am y rhan helaeth o'r flwyddyn.

Mae'r safonau yn Ewrop yn cael eu gosod gan yr Undeb Ewropeaidd ac yn cydymffurfio â safonau y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol a osodwyd gan Ffederasiwn Rhyngwladol Symudiadau Amaethyddiaeth Organig (IFOAM neu Organics International). Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) sy'n gyfrifol am gymhwyso'r rheolau hyn yn y DU.

Yn ein barn ni, ydy. Mae ethos ffermio organig yn dibynnu ar symbylu pridd iach sy'n llawn maetholion, gweithgaredd microbaidd a mwydod! Mae llawer o fwydod yn golygu pridd iach. Mae gan blaladdwyr a gwrteithwyr y potensial i niweidio amgylchedd y pridd a chyrsiau dŵr felly mae eu defnydd yn cael ei osgoi fel mater o drefn yn ein harferion ffermio er mwyn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd. Mae hyn hefyd yn sicrhau diet naturiol ac iach i'r da byw, sydd yn ei dro yn cael ei drosglwyddo i'n cwsmeriaid trwy ein llaeth a chynnyrch llaeth eraill. Mae pob un o'n ffermwyr yn cymryd rhan mewn cynlluniau gwella amgylcheddol swyddogol megis Glastir.

Lles anifeiliaid yw un o'r materion allweddol sy'n gynwysedig mewn safonau organig. Mae hyn yn golygu bod pethau fel eu hamodau byw, dwysedd stocio a'r ffordd y cânt eu cludo i gyd yn cael eu llywodraethu. Mae safonau organig yn mynnu bod dietau gwartheg yn seiliedig ar borthiant naturiol - (glaswellt, silwair a gwair). Mae pob un o ffermwyr Calon Wen yn ceisio cynyddu'r amser y mae'r gwartheg yn treulio tu allan yn y caeau a, gan ddibynnu ar y lleoliad a'r hinsawdd leol, gall hyn olygu bod gwartheg yn yr awyr agored o ddechrau mis Chwefror hyd at ddiwedd mis Tachwedd. Felly mae ein gwartheg yn byw ar ddiet porthiant uchel am 75% o'r flwyddyn o bosibl neu, cyhyd â bod y glaswellt yn ddigon cyfoethog a thoreithiog i'w cynnal. Pan fyddant tu mewn (pan fydd ansawdd glaswellt a/neu amodau pridd yn mynnu) cânt eu bwydo â gwair neu silwair o'n caeau. Nid yw silwair o'r un ansawdd â glaswellt, felly rydym hefyd yn ychwanegu grawnfwydydd organig at eu diet.

Nid ydym fel rheol yn trin ein buchod â chyffuriau, ond defnyddir gwrthfiotigau os oes angen i ni drin anifeiliaid sâl. Rydym felly'n defnyddio cyffuriau yn ôl yr angen a bob amser dan oruchwyliaeth filfeddygol.

Os bydd hyn yn digwydd, yna rhaid tynnu'r anifail o'r gadwyn fwyd am, fel rheol, ddwywaith cyhyd ag sydd ei angen mewn ffermio anorganig.

Rydym yn credu hynny.

Er yr ystyrir bod y cemegau a ddefnyddir mewn ffermio confensiynol yn ddiogel, hyd y gwyddom ni wnaed unrhyw ymchwil ar yr hyn a alwn yn “effaith coctel” y cemegau hyn ar ein tir ac yn ein bwyd. Er y gallai fod yn ffôl honni y bydd bwyd organig yn unig yn eich gwneud yn iachach, credwn fod synnwyr cyffredin yn awgrymu, os oes gan y bwyd yr ydym yn ei fwyta lai o gemegau a ddefnyddir wrth ei gynhyrchu, yn naturiol bydd llai o weddillion yn y cynnyrch terfynol. Mae yna astudiaethau annibynnol sy'n cefnogi'r farn hon, er enghraifft astudiaeth gan Brifysgol Newcastle a ddyfynnir isod.

Dyma rai o'r ffeithiau sy'n ein hargyhoeddi bod llaeth organig yn darparu buddion iechyd:

Mae gan laeth organig cyfan a lled-sgim asid brasterog omega-3, Fitamin E a beta-caroten mwy buddiol na llaeth anorganig.
Mae gan laeth organig y DU lefelau 68% yn uwch o'r asid brasterog hanfodol na llaeth anorganig.

Dangosodd astudiaeth a gynhaliwyd yn yr Iseldiroedd fod nifer yr achosion o ecsema mewn plant ifanc wedi lleihau 36% lle roedd y plant yn bwyta cynnyrch llaeth organig ac mae ymchwil bellach gan Brifysgol Newcastle wedi dangos bod llaeth organig yn uwch mewn maetholion buddiol ac asidau brasterog drwy gydol y flwyddyn. Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma. http://www.ncl.ac.uk/press/news/2016/02/organicandnon-organicmilkandmeat/

Er lles ein hanifeiliaid ac i amddiffyn iechyd y pridd, rydym yn cadw llai o anifeiliaid ar bob erw o dir. Rydym yn caniatáu i'n glaswellt dyfu'n naturiol ac nid ydym yn defnyddio unrhyw gemegau artiffisial i orfodi tyfiant cyflymach. Felly rydym yn cynhyrchu llai o laeth na fferm anorganig o faint cymharol, er bod ein costau gwasanaeth sylfaenol yr un fath.

Mae'r holl ffactorau hyn yn golygu mai dim ond trwy godi mwy o arian am ein cynnyrch y gellir cynnal ein ffermydd teulu.

Mae hwn wedi bod, ac yn parhau i fod, yn fater heriol i ni. Rydym yn ymfalchïo mewn darparu cynnyrch y mae ein cwsmeriaid ffyddlon yn eu caru, ac rydym yn difaru bod rhai wedi cael eu siomi gyda'r ffaith bod ein holl laeth potel wedi'i homogeneiddio. Rydym yn defnyddio ffatrïoedd trydydd parti a gymeradwywyd gan Gonsortiwm Manwerthu Prydain i fotelu ein llaeth. Roeddem yn arfer gwerthu llaeth heb ei homogeneiddio, ond ar hyn o bryd ni allwn wneud hynny gan na all y llaethdy a ddefnyddiwn ei gynhyrchu i ni mwyach. Yn y dyfodol, hoffem ddarparu'r ddau gynnyrch, ond mae'n anodd dod o hyd i laethdy arall sy'n gallu cynhyrchu llaeth heb ei homogeneiddio mewn ffatri botelu sy'n cwrdd â safonau uchaf Consortiwm Manwerthu Prydain. Er bod hyn yn siom i rai o'n cwsmeriaid, mae mwyafrif llethol ein cwsmeriaid hefyd yn dweud wrthym fod yn well ganddyn nhw laeth wedi'i homogeneiddio.

Mae gan bob llo laeth ffres cyfan am o leiaf 12 wythnos ac nid oes unrhyw un o ffermwyr Calon Wen yn ymwneud â chynhyrchu cig llo. Yr heffrod (lloi benywaidd) yw cynhyrchwyr llaeth y dyfodol, tra bod y lloi tarw yn tyfu i fod yn anifeiliaid cig eidion.

Mae Calon Wen yn fenter gydweithredol gydag 20 aelod ledled Cymru ac felly maen nhw'n defnyddio lladd-dai sy'n lleol i'w ffermydd eu hunain. Fodd bynnag, rhaid i bob lladd-dy hefyd gydymffurfio â rheoliadau lles llym yr UE gan gynnwys sicrhau awyru da, digon o le i'r anifeiliaid, cyflenwi dŵr, dim straen - i enwi ond ychydig. Rhaid i bob triniwr fod wedi'i hyfforddi'n llawn a chydymffurfio â rheolau a rheoliadau yn ymwneud â diogelwch a llesiant anifeiliaid. Yn ogystal, mae'n rhaid i ladd-dai nodi cynnyrch organig o'r adeg y maent yn cyrraedd i'r adeg maent yn gadael ac mae'n rhaid cadw'r anifeiliaid ar wahân i dda byw anorganig. Os bydd unrhyw oedi'n digwydd yn y broses mae'n rhaid eu bwydo â bwyd organig.

Calon Wen