GELLIR COMPOSTIO 100% O BECYNNAU MENYN NEWYDD CALON WEN – GAN GYNNWYS YR INC!

RYDYM YN FALCH IAWN O ALLU CYHOEDDI BOD EIN MENYN ORGANIG BLASUS BELLACH YN DOD I CHI WEDI EI LAPIO YN GARIADOL MEWN PECYN Y GELLIR EI GOMPOSTIO 100%.

Pam fod cael labeli y gellir eu compostio yn well na chael labeli bioddiraddadwy?

Mae ein pecyn menyn Calon Wen, fel pob deunydd y gellir ei gompostio, yn fioddiraddadwy, ond ni ellir compostio pob deunydd bioddiraddadwy. Er bod deunyddiau bioddiraddadwy yn dychwelyd i fyd natur ac yn gallu diflannu’n gyfan gwbl maent weithiau’n gadael gweddillion metel ar eu hôl, tra bod deunyddiau y gellir eu compostio fel ein pecynnu menyn newydd yn creu rhywbeth o’r enw hwmws sy’n llawn maetholion ac yn wych ar gyfer planhigion.  Mae hyn yn bwysig ei wybod oherwydd tra bod eitemau bioddiraddadwy yn cyfeirio at unrhyw ddeunydd sy’n dadelfennu yn yr amgylchedd yn unig, mae nwyddau y gellir eu compostio yn cael eu gwneud yn benodol o ddeunydd organig sy’n dadelfennu i greu cynnyrch terfynol sydd â nifer o ddefnyddiau buddiol sy’n cynnwys gwrteithio a gwella iechyd y pridd. Yn bwysicaf oll, ni fydd ein pecynnu menyn y gellir ei gompostio yn gadael gweddillion gwenwynig ar ei ôl oherwydd ei fod eisoes yn organig.

Da i’n cwsmeriaid

Mae’r pecynnu wedi’i ardystio’n annibynnol fel un sy’n cydymffurfio â BS EN13432 sy’n golygu y gallwn fod yn falch o allu rhoi logo ar becynnu ein menyn i nodi y gellir ei gompostio, sydd yn ei dro yn golygu y gallwn dawelu meddwl ein holl gwsmeriaid hyfryd ein bod yn gwneud ein gorau i ofalu am ein hamgylchedd.

Compostio Cartref a Garddio Organig

Mae’r logo hwn a fydd bellach yn cael ei arddangos ar ein pecynnu menyn Calon Wen yn ffordd weledol i ddefnyddwyr adnabod deunyddiau y gellir eu compostio gartref.

Compostio gartref yw conglfaen garddio, yn enwedig garddio organig. Mae cynnyrch gorffenedig compostio cartref yn gyfoethog, yn dywyll, yn friwsionllyd ac yn arogli’n felys. Mae wedi’i wneud o wastraff gardd a chegin wedi’i ailgylchu, a gall hefyd gynnwys cynhyrchion papur a phecynnau sy’n arddangos y logo hwn. Gellir defnyddio’r compost i fwydo a chyflyru’r pridd ac i wneud cymysgeddau potio. Yn ôl gardenorganic.org.uk “Mae tua 40 y cant o gynnwys biniau sbwriel cyffredin yn addas ar gyfer compostio gartref” felly mae’n helpu i gwtogi ar dirlenwi hefyd.

Mae’r fideos hyn yn esbonio’n fanylach sut i wneud a defnyddio compost gartref.

Ar hyn o bryd ni ellir rhoi pecynnau y gellir eu compostio yn eich casgliadau gwastraff gardd neu fwyd ond gwiriwch am unrhyw gasgliadau amgen yn lleol.

Y darn gwyddonol….

Mae’r papur a ddefnyddir ar gyfer ein lapio menyn Calon Wen wedi’i wneud o ffibrau pren crai sydd, o’u hamlygu fel gwastraff, yn dadelfennu’n naturiol.

Nid yw’r papur yn cynnwys unrhyw rai o’r canlynol:

  • asid perfflwooctanoic (PFOA),
  • ffthaladau
  • bisffenol A neu B.

Mae modd compostio’r inciau a ddefnyddir hefyd ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw rai o’r canlynol:

  • Olewau Mwynol Hydrocarbon (MOAH – Hydrocarbonau Aromatig Olew Mwynol neu MOSH – Hydrocarbonau Dirlawn Olew Mwynol)
  • Etherau deuffenyl polybrominedig (PBDE)
  • Llygryddion Organig Parhaus (POPs), CFCs, HCFCs a sylweddau eraill sy’n disbyddu’r osôn
  • Ffthalatau
  • Gweddillion plaladdwyr
  • Polyfinyl clorid (PVC) a monomerau polyfinyliden clorid (PVdC)
  • Sylweddau REACH o Bryder Uchel Iawn (SVHC)

Mae’r papur a’r inciau yn cydymffurfio â’r Gyfarwyddeb Ewropeaidd ar Becynnu a Gwastraff Pecynnu (94/62/EC) sy’n golygu nad ydynt yn cynnwys unrhyw fetelau trwm uwchben y lefelau a ganiateir.

Darllen Mwy

ORGANIG O GYMHARU AG ANORGANIG

Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn y British Journal of Nutrition yn dangos bod llaeth a chig organig yn cynnwys tua 50% yn fwy o asidau brasterog omega-3 buddiol na chynhyrchion a gynhyrchir yn gonfensiynol. Croesawn yr adroddiad hwn gan ei fod yn cadarnhau’r hyn yr ydym ni yn Calon Wen erioed wedi’i honni am

Gweld Mwy

Bwrdd Cawsiau Nadolig Calon Wen

Amser i roi a rhannu yw’r Nadolig yn draddodiadol. Nid yw’n syndod, felly, bod y bwrdd cawsiau Nadolig yn gymaint rhan o’n traddodiad o ran bwyd erbyn hyn â’r gacen Nadolig neu’r twrci!

Gweld Mwy

6 BUDD IECHYD LLAETH

Dydd Llun 1 Mehefin yw 20fed Pen-blwydd Diwrnod Llaeth y Byd. I ddathlu pwysigrwydd llaeth fel bwyd byd-eang, ac i ddathlu’r sector cynnyrch llaeth rydym wedi creu ffeithlun i dynnu sylw at 6 Budd Iechyd sy’n gysylltiedig ag yfed llaeth. #WorldMilkDay #EnjoyDairy

Gweld Mwy
Calon Wen