Deunydd pacio ac ailgylchu

Os nad oeddech chi’n gwybod yn barod, mae ein menyn wedi’i phacio mewn deunydd pacio compostadwy- dyma un o’r rhesymau rydym yn ddwli ar y cynnyrch yma cymaint â’r un rheswm i chi’n ddwli arno hefyd! Darllenwch y rhestr isod sy’n esbonio’r rhesymau pam rydym yn ddwli ar y deunydd pacio yma.

Buddion amgylcheddol o ddeunydd pacio compostadwy

  1. Dargyfeirio gwastraff organig o dirlenwi– Yn wahanol i blastig untro traddodiadol, sy’n annhebygol i gael ei ailgylchu oherwydd halogiad bwyd ac felly’n glanio yn ein bin sbwriel- mae deunydd pacio compostadwy yn caniatáu casgliad untro o wastraff, sy’n golygu’r budd atodol- gostwng y trawiad amgylcheddol o ddeunyddiau organig yn ein tirlenwi.
  2. Gostwng allyriadau nwy tŷ gwydr o wastraff organig– Mae gwastraff organig mewn tirlenwi wedi’i newynu o ocsigen a phan gaiff eu torri lawr, mae’n allyrru nwy tŷ gwydr methan. Mae compostio ein gwastraff bwyd gyda’n deunydd pacio compostadwy yn rhoi trawiad positif enfawr ac mae’n strategaeth allweddol i daro newid hinsawdd. Yn ogystal â hyn, mae compostio yn broses sy’n gorfodogi carbon o’r awyrgylch ac yna’n cael ei storio yn y pridd.
  3. Compostio ar gyfer ein hamgylchedd– Mae compost yn fuddiol i’r pridd, planhigion a bywyd anifeiliaid mewn sawl ffordd:
  • Mae’n gwella cyflwr y pridd ac ansawdd sy’n hybu tyfiant y planhigion a dargadwad dwr.
  • Mae compostio yn gorfodogi carbon ac yn hybu digonedd o fuddion micro-organebau sy’n wneud ein pridd yn ffrwythlon a chynhyrchiol.

4. Dal mwy o wastraff bwyd– Mae defnyddio deunydd pacio compostadwy ar gyfer serfio bwyd yn golygu ar ôl pob pryd bwyd, fe all popeth mynd mewn i un bin. Mae hyn yn galluogi chi i ddal mwy o wastraff bwyd ac i leihau halogiad yn y gwastraff ailgylchu.

Mae ein poteli llaeth medru cael ei ailgylchu, ond nid yw’r deunydd pacio caws medru cael ei ailgylchu eto ar hyn o bryd. Rydym ar fu’n chwilio am gynhyrchwr sy’n gallu darparu deunydd pacio compostadwy ar gyfer ein caws, ni’n gobeithio erbyn diwedd y flwyddyn. Unwaith i ni ddarganfod hyn, chi bydd y cyntaf i wybod!

Darllen Mwy

ORGANIG O GYMHARU AG ANORGANIG

Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn y British Journal of Nutrition yn dangos bod llaeth a chig organig yn cynnwys tua 50% yn fwy o asidau brasterog omega-3 buddiol na chynhyrchion a gynhyrchir yn gonfensiynol. Croesawn yr adroddiad hwn gan ei fod yn cadarnhau’r hyn yr ydym ni yn Calon Wen erioed wedi’i honni am

Gweld Mwy

Bwrdd Cawsiau Nadolig Calon Wen

Amser i roi a rhannu yw’r Nadolig yn draddodiadol. Nid yw’n syndod, felly, bod y bwrdd cawsiau Nadolig yn gymaint rhan o’n traddodiad o ran bwyd erbyn hyn â’r gacen Nadolig neu’r twrci!

Gweld Mwy

BETH YW MEDI ORGANIG?

Mae Medi Organig yn ymwneud â dathlu popeth organig, gan roi sylw i gynhyrchwyr organig gweithgar i gydnabod eu gwaith a’u hymroddiad i weithio gyda byd natur, nid yn ei erbyn. Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi gweld newidiadau enfawr i’n byd, a nawr yn fwy nag erioed mae’n bryd i ni ddechrau chwilio am atebion

Gweld Mwy
Calon Wen