Set Rodd Caws a Chwrw

Creu eich bwndel eich hun

Cwrw Cymreig a chaws organig Cymreig – beth arall allech chi ofyn amdano?

Maint y pecyn

583 mewn stoc

£2.70£29.20
Maint y pecyn
£2.80£30.25

583 mewn stoc

Disgrifiad

Cwrw Crefft Cymreig Arbenigol gyda Chawsiau Organig i gyd-fynd â nhw

Rydyn ni i gyd yn gwybod bod caws a gwin yn cyd-fynd yn berffaith… ond gyda byd cyfan o gwrw newydd cyffrous, pam ddylem ni gyfyngu ein hunain i baru caws gyda dim ond un math o ddiod alcoholig?

Cwrw Du Moonstone a Cheddar Mwyn Calon Wen

Moonstone (4.6%) – Cwrw du tywyll traddodiadol llawn hopys bramling cross a fuggles. Gan greu chwerwder sbeislyd i gyd-fynd â’i flasau siocled a chnau. Mae nodau miniog y cwrw crefft hwn ynghyd â blasau cneuog a hufennog y cheddar mwyn yn cyfoethogi’r ddau flas i greu pâr sy’n cyd-fynd yn berffaith.

Chwerw Golau Rockhopper a Perl Wen

Rockhopper (3.9%) – Chwerw melyngoch golau clasurol, gyda sylfaen brag ysgafn a ffrwythlondeb sbeislyd o hopys Challenger, Bramling Cross a Chinook. Mae gan Perl Wen flas sitrws sy’n ategu’r cwrw sbeislyd hwn yn hyfryd.

IPA Tiger’s Eye a Cheddar Aeddfed Iawn Organig Calon Wen

Tiger’s Eye (4.6%) – IPA golau, ffrwythlon a throfannol. Yn llawn arogl hopys Rakau a Motueka, a hopys sych Rakau a Styrian Wolf.  Mae ffrwythlondeb yr IPA ynghyd â blas cyfoethog y cheddar yn gyfatebiad melys a sawrus perffaith.

Bragdy teuluol ecogyfeillgar yw Bluestone Brewing sydd wedi’i leoli yng nghefn gwlad Gogledd Sir Benfro, Cymru. Maen nhw’n bragu eu cwrw o gynhwysion mawr beiddgar ar odre creigiog a garw mynyddoedd Bluestone i greu cwrw o safon sy’n fawr ei flas ac yn fawr ei agwedd.

Adolygiadau

Does dim adolygiadau eto.

Byddwch y cyntaf i adolygu “Set Rodd Caws a Chwrw”

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Nodir meysydd gofynnol gyda *