• Mae llawer o ffermwyr llaeth yn awyddus i werthu eu llaeth i bobl lleol drwy gwmniau eu hunain. Dyna yn union yw nôd Calon Wen.

• Sefydlwyd Calon Wen bron i ddeg mlynedd yn ôl ac mae’n gwmni cydweithredol gyda ugain o ffermydd teuluol ar draws Cymru yn berchen arni. Ein nôd yw sicrhau marchnad hir-dymor i laeth organig Cymreig drwy gefnogi anghenion prosesu organig yn Nghymru.

• Rydym yn cyflenwi ein llaeth organig i gwmniau megis ‘Rachel’s Organic Dairy’ o Aberystwyth a Chaws Cenarth o Sir Gaerfyrddin. Rydym hefyd yn cynhyrchu cynnyrch ein hunain drwy weithio yn gyfochrog a phroseswyr yn Nghymru.

• Calon Wen yw’r llaethdy cyntaf ym Mhrydain i ennill gwobr masnach moesol gan y Gymdeithas Pridd . Mae hyn yn cadarnhau fod Calon Wen gyda arferion thêg a moesol i’r sawl sy’n cynhyrchu a phrosesu eu llaeth. Mae hefyd yn ddangosydd o’u hymrwymiad i gefnogi cymunedau lleol lle maen’t yn byw ac yn gweithio.

• Mae ffermwyr Calon Wen yn cael eu talu am ansawdd eu llaeth yn ogystal a pha faint o laeth maent yn eu gynhyrchu. Golygai hyn nad ydynt yn cael eu gwthio i or gynhyrchu llaeth. Rydym yn talu pris sydd yn uwch na phris y farchnad am laeth ein ffermwyr ac rydym yn cynnig sicrwydd hir dymor i’n haelodau.

• Mae Calon Wen yn gynnyrch adnabyddus yn Nghymru ac yn cael ei werthu led led y wlad ac ar y ffin yn siopau Tesco a Morrisons ymysg rhai eraill. Yn y siopau hyn mae Calon Wen yn tueddu i werthu yn gynt na llaeth o fath arall o 2-1.

• Prin yw’r nifer o brosesau wrth gynhyrchu Calon Wen, y nod yw ei gadw yn bur ac yn faethlon. Yn syml ceir ei basteureiddio, ei bacio ac yna ei werthu.

• Cwmni proffesiynnol yw Calon Wen sy’n cael ei redeg gan ffermwyr sy’n berchen arno.