Newyddion

January 13, 2010

Caws gorau i Lysieuwyr

Rydym yn dathlu wedi i’n caws ennill gwobr arall!
Fe enillodd ein Caws Aeddfed Cryf ‘Caws Llysieuwyr gorau’ yn nghwybrwyon cyntaf y cylchgrawn ‘Cook Vegetarian’. Dywed y beirniad ei fod “... wedi aeddfedu’n ddigonol i gael blas o grisialau calsiwm lactate, tra’n osgoi i fod yn rhy siarp fel rhai opsiynau eraill, ac yn gadael blas caws cryf a blasus.”
Cafodd y caws ei lansio yng Ngorffennaf 2009 ac mae eisoes wedi ennill dwy seren aur yng Ngwobrwyon y ‘Great Taste’.
“Rydym yn falch iawn fod ein Caws Aeddfed Cryf wedi ennill y gwobrwyon yma sy’n cydnabod blas y cynnyrch yn ystod ei flwyddyn gyntaf” Dywed Richard Tomlinson, Ffermwr Calon Wen.
Mae holl gynnyrch Calon Wen hefyd wedi’w cymeradwyo gan Gymdeithas Llysieuwyr “Fe benderfynom farchnata y mantais ychwanegol yma gan y gwyddom fod llysieuwyr yn chwilio am gynnyrch organig” dywed Richard. “Drwy cael ein cymeradwyo a thrwy gario’r logo mae’n gwneud o’n rhwydd i bobl weld fod ein cynnyrch yn addas i Lysieuwyr.
“Bydd y wobr gan ‘Cook Vegetarian’ yn helpu mwy a mwy o lysieuwyr flasu ein caws yn ogystal â’r phobl fel chi sy’n hoff o gaws Cymreig blasus!”