Newyddion

September 10, 2009

Ras laeth i gopa’r wyddfa ar gyfer Macmillan

Mae ein ffermwyr yn cymryd rhan mewn ras gyfnewid llaeth i gopa’r wyddfa yfory (Dydd Iau,10fed o Fedi) i godi ymwybyddiaeth ar gyfer Cymorth Cancr Macmillan.
 
Bu’r ffermwyr yn pasio’r baton, potel o laeth ac yn ei gario i ben y wyddfa fel rhan o baratoadau ar gyfer Bore Goffi Mwyar byd Macmillan a fydd yn cael ei gynnal ar Ddydd Sadwrn y 25ain a Dydd Sul y 26ain o fis medi. Ar y diwrnodau yma bydd Cwmni Rheilffordd Y Wyddfa yn cyfrannu enillion o de a choffi yng nghaffi’r copa - caffi uchaf yn y DU - i Macmillan.
 
‘Y nod yw codi ymwybyddiaeth o fore coffi Macmillan a fydd yn cael ei gynnal ar y wyddfa, a hefyd i annog pobl i gymryd rhan drwy gynnal bore coffi Macmillan eu hunain yn eu gweithle, adref, yn eu siop goffi lleol neu unrhyw le gall bobl ddod at ei gilydd a chael coffi’ dywed Richard Tomlinson - ffermwr Calon Wen.

Bydd y ffermwyr yn cychwyn o Lanberis am 9y.b ag yn anelu i gyrraedd copa’r Wyddfa rhwng 12.30 a 1y.p lle bydd Rheolwr Codi Arian Macmillan Eleri Brady a Chas Clapp o Reilffordd Y Wyddfa yn eu derbyn.
 
“Mae gymaint o bobl yn cael ei effeithio gan Cancer ac rydym eisiau gwneud rhywbeth i gefnogi Macmillan, sy’n gwneud gymaint i bobl sy’n dioddef o gancr a’u teuluoedd.  Gan ei’n bod yn gwmni cydweithredol llaeth roeddem yn gweld ein bod yn ffitio mewn yn dda ac yn gallu helpu hyrwyddo Macmillan a cyflewni llaeth i achos da.”

Uchod gweler y tim o bump o Calon Wen gyda Eleri Brady ar gopa’r Wyddfa.