Newyddion

April 22, 2008

Mae ein Eco paks yn sathru ar dir newydd

Yn gyntaf fe symudodd ein llaeth i fewn i’r eco pak a nawr maent yn sathru ar dir newydd  wrth iddynt gael eu hysbysebu  mewn hysbyseb teledu a geir ei ddarlledu dros Gymru gyfan.

Mae’r hysbyseb yn cyd-fynd gyda lansio ein eco paks i fewn i 43 o archfarchnadoedd Tesco yng Nghymru. Ein buwch cart?n sy’n ganolog yn yr hysbyseb sydd yn cael cymorth dau aderyn i ddangos pa mor rhwydd yw defnyddio’r eco paks, fel a weler uchod.

Ceir ei ddarlledu ar S4C a ITV Cymru yn yr wythnosau nesaf, ond os ydych awydd cael cip olwg arno cyn hynny cliciwch yma.