Newyddion

April 8, 2008

Love-OM

‘Da chi di clywed am ymgyrch Love-OM bellach?
Mae Calon Wen yn falch o fod yn rhan o Love-OM, sef ymgyrch sydd wedi ei selio ar iechyd.
Wedi’r cyfan pa well ffordd o wella eich iechyd na neud y cam rhwydd a fforddiadwy o newid i laeth organig? Dyma un neu ddau o resymau dros ’neud...mae llaeth organig yn dda i’ch corff, yn glen i’r amgylchedd, ysgafn ar eich pwrs ac yn cael ei gynhyrchu gan wartheg hapus.

Am fwy o resymau dros newid ac i gefnogi’r ymgyrch ewch i www.love-om.com