Newyddion

January 24, 2008

Ai ti yw’r 1 i mi?

    alt  alt  alt  alt
 Da ni gyd mai clywed na ci di ffrind gorau ffermwr. Wel mae Calon Wen awydd helpu ein ffrindiau ac am gyd-weithio gyda’r RSPCA i lansio ‘Ai ti yw’r 1 i mi?’ sef ymgyrch i geisio dod o hyd i ‘bartneriaid’ newydd i’r cwn wrth i dymor o gariad nesau.
Yn dilyn llwyddiant ‘Ffansi Ffarmwr?’ rydym yn credu bod hi’n amser dangos dipyn o gariad tuag at ein ffrindiau gorau. Bydd sticeri yn ymddangos ar ein poteli llaeth ar gyfer Diwrnod Santes Dwynwen ac ar gyfer Diwrnod San Ffolant, ac maent yn cynnwys pedwar o gwn gorjus a ddaw o ganolfan Bryn y Maen. Maent yn engrhaifft o’r gwn sydd ar gael sydd yn chwilio am gartref newydd...
         alt       alt

                      Lennox                         Laddie

         alt        alt

                      Monty                               Mia

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y cwn.
Rydym yn deall gan eich bod yn gwsmeriaid i ni fod lles anifeiliaid yn bwysig ichi, felly chi yw’r pobl perffaith i gysylltu ynglŷn â chwn sydd wedi cyrraedd canolfannau cwn. Bwriad yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth am cwn ac anifeiliaid sydd yn ngofal yr RSPCA ac i ofyn ar ddiwrnodau o ‘gariad’ a allwch chi ddangos cariad i anifeiliaid yn ogystal â phobl?
 
Mae sawl canolfan achub drwy gydol y Deyrnas Unedig yn gofalu am rai anifeiliaid a gafodd eu hachub, neu rhai wedi I’w perchnogion roi’r gourau iddynt. Maent yn anifeiliad clên, cariadus sydd angen cyfle arall ar fywyd.
 
Uchod mae pedwar esiampl o lawer o anifeiliad sydd yn chwilio am gartref newydd. Os rydych â diddordeb, ac yn gallu cynnig y cariad, gofal ar sylw maent eu hangen gwasgwch yma am fwy o wybodaeth ar adran ail-gatrefu yr RSPCA.
Cliciwch yma am engrhiaifftiau o gynffonnau hapus (happy tales)!