Helo, Moira ydw i, y pedwerydd cenhedlaeth sy’n ffermio Fferm Clofers yn Sir Benfro.  ’Rwyf yn ffermio gyda fy nghwr Roger ac ’rydym yn aelod o Calon Wen ers pum mlynedd.   Mae gennym ddau o blant.

Ebrill 2008

Mae’r gwartheg allan gennym yn ystod y dydd, ond gan ei bod hi di bod yn wlyb ac yn oeri’ tua’r nos da ni di bod yn eu sbwylio gan eu cadw i mewn a rhoi silwair iddynt.  Mae hyn yn gyfuniad da, a gan eu bod yn cael y gorau o ddau fyd mae cynhyrchiant llaeth ar ei uchaf.

Swydd Roger yr wythnos yma ydi troi’r caeau er mwyn eu hail hadu â chymysgedd o hadau haidd/pys a chymysgedd o hadau glaswellt/clofer.  Mae’r haidd a phys yn tyfu’n gyflym ac yn cystadlu gyda chwyn er mwyn roi amser i’r hadau glaswellt a clofer i dyfu. Bydd y tyfiant yn cael ei dorri pan fydd yn 12 wythnos ac yn cael ei ’neud i mewn i silwair i’r gwartheg sych.  Erbyn hyn bydd y glaswellt ar clofer wedi ei sefydlu heb lawer o chwyn a bydd unai yn cael ei dorri ar gyfer silwair neu bydd yn gae pori ar gyfer y 10 mlynedd nesaf.  Felly mae’n bwysig i’w gael yn iawn!

Fe gawsom lawer o goed bach onnen yn tyfu o amgylch un o’r siediau fferm ac yn hytrach na eu torri i lawr fe benderfynom eu hail plannu ar dir diffrwyth ac ar un neu ddau o gornel i gae.  Y syniad yw gallu eu torri fel coed tan i’r tŷ mewn blwyddyn neu ddwy sef ein hymdrech i fod yn hunan gynhaliol mewn byd sydd gyda chostau tanwydd sy’n cynyddu.

Y 31ain o Fawrth yw diwedd y flwyddyn ariannol ar gyfer y fferm.  Rwyf wedi bod yn gwario dipyn o amser yn sortio’r cyfrifon cyn eu trosglwyddo i’r cyfrifydd i gael golwg arnynt. Mae’r plant yn helpu gyda chyfri’r stoc ar ddiwedd y flwyddyn ac yn ei gymryd yn reit ddifrifol.  Maent yn mynd o amgylch y stoc gyda’i byrddau clip ac yn cyfri’r nifer o wartheg, siwair, gwair a gwellt ac yn gwneud eu gorau i gael yr un un ateb a mi.

Mae’n debygol na chamgymeriad oedd dysgu Dollie, y jersi fach croes i dwyso.  Fe lwyddodd i ddianc o’r sied gyda thipyn o loi eraill, a thra bod modd gyrru’r gweddill yn ôl i mewn i’r sied yn reit rhwydd fe wrthododd Dollie i symud.  Fe fu raid inni nôl y tennyn a’i thwyso yn ôl i’r sied, rhywbeth na fyddwn eisio neud pan fydd hi’n fuwch godro!

Mawrth 2008

‘Rydym yn dal i ddilyn y drefn ddyddiol o garthu, bwydo a chwalu gwely ar gyfer y gwartheg sych a’r stoc ifanc. ‘Rydym yn falch fod y gwaith yma wedi ei leihau gyda’r gwartheg godro gan eu bod yn mynd allan ar ddyddiau da.
 
Roeddem y lwcus iawn mai dim ond un neu ddau o gwteri a llechi a gafodd eu chwythu oddi ar adeiladau yn ystod y stormydd diweddar gan fod rhai wedi cael difrod mawr.
 
Wedi i’r gwartheg cael eu cadw i mewn am gyfnod o 4-5 mis mae’n bwysig inni gadw golwg ar eu traed gan fod rhai yn gallu mynd yn gloff. Mae Roger wedi prynu clwyd sydd wedi ei ddyfeisio yn arbennig sy’n eu dal â chyrff a strapiau ac yn neud hi’n rhwyddach i drin traed gwartheg. Mae’n gweithio’n dda i wartheg ond fe fu raid inni roi Tommy, sef ein tarw Hereford tair oed ynddo wythnos diwethaf, wedi iddo frifo ei droed ôl. Fe fu raid inni addasu maint gwddf y glwyd ac yna ei gael i mewn gyda bwced o fwyd tra fe gaeodd Roger ef i mewn o’r cefn. Fe fihafiodd yn eithaf wrth inni drin ei droed, ond bu raid imi roi 3 bwced o fwyd iddo i’w gadw’n ddistaw.
 
Wedi i Roger ddod yn ail yng nghystadleuaeth silwair bels mawr drwy gydol Cymru blwyddyn diwethaf cafodd ei wahodd i feirniadu yn y rownd derfynol y flwyddyn hon. O ganlyniad fe gafodd dau ddiwrnod i ffwrdd o’r ffarm yn teithio cyn belled â Sir Fôn yng ngogledd Cymru ac i lawr i’r Fenni yng ngorllewin Cymru. Fe fwynhaodd y profiad gan gwrdd â gwahanol ffermwyr a dysgu am eu technegau nhw o ffermio. Yn lwcus imi roedd y ddau ddiwrnod yma yn ddiwrnodau pan nad oedd gan y plant ymarferion ar ôl ysgol. Felly, nid oedd rhaid imi fod yn trio godro a bod yn dacsi ar yr un pryd!
Chwefror 2008
Cwestiwn: Beth mae Roger wedi bod yn neud yn y tywydd da ’ma?
Ateb: Chwalu slyri ar ein caeau silwair.
 
Mae’n si?r eich bod yn credu na’r oll da ni’n neud ydi ffermio. Ond gan mai slyri yw’r unig fath o wrtaith gallwn ei ddefnyddio o dan safonau organig mae’n bwysig inni. Roedd y plant ddim yn hoffi gweld Dad yn gweithio gan roeddynt yn credu y dylai fod yn chwarae pêl droed gyda nhw gan ei fod yn hanner tymor arnynt.
 
Mae’r ddwy heffer jersi wedi dod a lloi ac mae’n bleser i’w cael yn y palwr godro. Fel rheol mae heffrod sydd newydd ddod a lloi yn gallu bod yn ofnus pan maent yn cychwyn godro ond does dim problem gyda rhain. Fodd bynnag mae un ohonynt yn sefyll allan gan ei bod wedi gwneud yn si?r fod y pob buwch yn ei gweld fel y brif fuwch. Mae hyn yn dipyn o lwyddiant gan ei bod yn hanner maint y rhan fwyaf o’r gwartheg.
 
Gyda’r cyfuniad o dywydd da a’r ffaith fod glaswellt eisoes yn tyfu’n gymedrol fe benderfynom adael rhai gwartheg allan i dir pori. Roeddynt yn pori’r maip cyn iddynt gael ei gadael i’r glaswellt ac roedd yn ddoniol ei gweld yn edrych ar y glaswellt wrth iddynt gerdded tua’r cae o faip. Unwaith i’r ffens gael ei agor i’r cae o laswellt roeddynt wrth ei bodd ac yn rhedeg o amgylch y cae.
 
Wedi wythnosau o beidio â gorfod galw’r milfeddyg fe fu raid inni ei alw allan dwywaith wythnos diwethaf. Y tro cyntaf i dynnu brych a oedd yn sownd o few buwch wedi iddi ddod a llo, roedd Roger wedi bod yn ei thrin â homeopatheg ac fe ddaeth allan tua hanner awr cyn i’r milfeddyg ddod. Yr ail dro oedd cael golwg ar heffer jersi croes 12 mis a oedd methu bwyta gyda bod ei gên wedi chwyddo. Cafodd diagnosis â chyflwr a elwir yn tafod pren ond wedi 7 diwrnod o wrthfiotig a llawer o sylw gan y plant roedd hi’n llawer gwell.
 
Fe gafodd coeden ei chwythu drosodd mewn storm Hydref diwethaf ac mae hi di bod yn gorwedd yn y cae yn disgwyl i’w chael ei thorri i fyny ers hynny. Fe dorrodd Roger y goeden â llif gan gadw’r darnau gorau er mwyn coed a thân ac fe aeth y gweddillion ar y goelcerth. Gan ei bod hi’n noson sych a’r gwynt yn chwythu i ffwrdd o’r adeiladau fe benderfynom oleuo’r goelcerth. Gyda chyfuniad o bren sych a gwynt cryf fe gynnodd y goelcerth yn well nag o ni di disgwyl gyda than cryf yn dod ohono. Yn anffodus o’r pentref roedd yn edrych fel bod ein tŷ ar dan ac fe gafodd y frigâd dan ei galw, cawsom hefyd sawl galwad ffôn yn neud si?r ein body n iawn. Neis oedd cael gwybod bod pobl yn meddwl amdanom.
 
Ionawr 2008
Wedi inni gael bach o seibiant dros ‘dolig a’r flwyddyn newydd (drwy ddim ond neud y gwaith angenrheidiol fel godro, bwydo a charthu) da ni’n ôl i’r arfer wan.
 
Cefais gwyn gan ‘Y Bos’ yn dweud fod angen cadw fyny gyda’r gwaith papur gan fy mod wedi disgyn ar ei hol hi braidd a olygodd fod dewis y gwartheg er mwyn cael tarw ddim mor drefnus ag arfer. Golygai hyn fod rhaid imi gael pethau i drefn sy’n ‘neud fi feddwl wrach na ddylwn wedi diogi cymaint dros y ‘dolig!
 
Ar ddiwrnod gwlyb wythnos diwethaf fe gafodd Roger wared â churniau y lloi heffrod. Proses yw hwn o gymryd curniau lloi i ffwrdd gyda haearn poeth a geir ei ‘neud o dan anesetic lleol. Rydym yn cymryd y cyrn i ffwrdd er mwyn osgoi i’r lloi fynd yn sownd mewn bariau bwydo neu frifo ei gilydd pan meant yn wartheg llawn maint.
 
Mae’r llawr yn llawer rhy wlyb i ddreifio arno ar hyn o bryd felly mae Roger yn ceisio trwsio hen tanker slyri sydd gyda phwmp ar y tu blaen. Ei nod yw pwmpio dwr budr allan i’r caeau drwy bibell dwy fodfedd. Yr unig broblem yw unwaith mae’n trwsio un darn mae’n darganfod darn arall sydd wedi torri!
 
Gyda chostau ffermio yn cynyddu rydym yn chwilio am ddulliau eraill o gynyddu ein henillion. Yn naturiol mae ein tir yn tyfu digon o laswellt ar gyfer hyn o hyn o wartheg a gan rydym eisoes wedi cyrraedd y lefel yma, felly rydym yn edrych am ddulliau eraill o neud enillion. Er mwyn cynhyrchu mwy o laeth i werthu byddai angen ‘pwsio’ ein gwartheg drwy eu bwydo â bwyd arbennig sydd yn erbyn be da ni eisiau gwneud. Felly rydym wedi penderfynu gwella ansawdd ein llaeth gan ein bod yn cael mwy amdano gan fod Calon Wen yn talu mwy am laeth o ansawdd gwell.
 
Mae gan laeth jersi lefelau uwch o fraster a phrotein felly mae’r llaeth yn werth mwy am bob litr o gymharu â llaeth o fridiau eraill. Rydym wedi dod i ddeall fod angen i 25% o’r gwartheg fod yn Jersi i ‘neud gwahaniaeth i’r llaeth yn y tanc. Fe awgrymodd ein milfeddyg inni beidio â phrynu gwartheg jersi pur gan fyddai yn gallu cyflwyno afiechydon i wartheg sydd heb lawer ohonynt. Roedd ei awgrym ef o fridio gwaed y jersi i’n gwartheg am gymryd dipyn. Mae’n heffrod jersi i gyd allan o’n gwartheg talaf sy’n cynhyrchu’r mwyaf o laeth, felly rydym yn gobeithio na fyddent yn rhy fyr wedi iddynt dyfu i’w llawn maint. Rydym yn bridio ein jersis sydd wedi ei chroesi gyda tharw jersi a bydd yr heffrod a ddaw ohonynt hefyd yn cael eu bridio a tharw jersi. Mae wedi cymryd tair blynedd a thri mis i fridio’r heffrod, naw mis o feichiogrwydd a dwy a hanner o flynyddoedd o fagu arnynt cyn iddynt ddod a lloi. Felly mae wedi bod yn broses hir!
Rhagfyr 2007
Rydym wedi gweld newid mawr mewn tywydd yn ddiweddar o fod yn sych a chynnes i law trwm a gwynt. O ganlyniad i hyn cafodd y gwartheg eu rhoi i mewn ar y 1af o Ragfyr ac felly mae’r rwtin gaeaf wedi cychwyn. Ceir y gwartheg sych a’r heffrod sydd yn disgwyl eu cadw yn yr un sied ac fe gant  eu carthu a chael gwely newydd yn ddyddiol . Bob yn ail dydd caiff y gwartheg iau eu carthu a golyga hyn fod gennym tipyn mwy o amser ar y dyddiau yna.
Rwyf wedi bod yn defnyddio tipyn o’r amser yma yn casglu y ffens drydannol i mewn o’r caeau rydym yn rhannu i fewn i borfa dyddiol i’r gwartheg eu bwyta. Mae hyn wedi galluogi i Roger gael caeau clir iddo chwalu slyri. Wedi’r glaw trwm a gawsom wythnos diwethaf mae’r tanciau slyri wedi llenwi yn sydyn ac rydym yn ceisio sicrhau fod digon o le iddynt i beidio a gorfod chwalu slyri rhwng ‘dolig ar flwyddyn newydd.
Fe werthasom 5 llo Belgian Blue a dwy fuwch iddynt sugno arnynt i ffermwr organig lleol yr wythnos diwethaf. Ar gyfartaledd fe gawsom £185 am y lloi, gan gynnwys gwerth y llaeth roeddynt wedi ei yfed hyd nes y gwerthwyd hwy.
Leida yw ein buwch hynnaf sydd nawr yn 12 mlwydd oed. Mae hi’n MRI (Meuse Rhine Issel) pur ag yn ferch i fuwch a fewnforiodd Roger a mi o’r Iseldiroedd pan nathom ni brodi 13 mlynedd yn ôl. Felly fel y gallwch ddychmygu mae hi’n dipyn o ffefryn. Fe ddaeth a Leida a llo gwrw wythnos diwethaf ac yn anffodus cawsom siec am £0 amdano. Gan ei bod yn hyn (ac wedi ei sboilio) mae Roger yn tueddu i adel iddi gael mwy o fwyd yn y palwr godro, sydd yn anrhydedd na chaiff yr un fuwch arall!
Fe fyddwn yn gwario noswyl nadolig yn carthu, rhoi gwely i’r gwartheg a rhoi silwair i’r stoc ifanc. Bydd hyn yn golygu na fu raid inni ond godro, carthu a bwydo’r gwartheg godro ar ddydd Nadolig. Bydd hyn yn gadael dipyn o oriau yn ystod y pnawn i wario’r Nadolig gyda’n plant a theulu sydd yn ymuno a ni. Wedi araith y Frenhines am 3.00yp a chael te a mins pei neu ddwy byddwn yn gwneud godro’r pnawn gan anelu i fod adref erbyn 7yh.
Nadiolig Llawen a blwyddyn newdydd dda.
Tachwedd 2007
Mae Roger wedi bod yn brysur yn hordio yn ystod y pythefnos diwethaf. Nid ydym yn tyfu ŷd ar ein ferm felly mae’n rhaid i ni brynu cnwd ar gyfer ein gwartheg. Roedd rhaid iddo nol dau lwyth o haidd gyda tractor a threilar o fferm sydd 25 milltir i ffwrdd. Bu yna yn chwistrellu’r haidd i fewn i fin bwyd gwartheg gan ddefnyddio pibellau a ffan electing. Rydym yn talu 55% mwy am bob tunell o gnwd o gymharu a blwyddyn diwethaf. Mae hyn o ganlyniad i leihad mewn argaeledd (o ganluniad i haf gwlyb) a chynydd yn yr angen am gnwd (gan fod cynnydd yn y nifer o ffermwyr sy’n newid i fod yn organig).
Mae Roger hefyd wedi prynnu 100 o feli gwelltorganig (sy’n cael ei roi i’r gwartheg sych) gan ffarmwr organig sy’n byw 3 milltir i ffwrdd. Fe gariodd ugain bel ar ei drailer ar yr un tro ac fe ddadlwythom y cyfan yn y cae.  Wrth i Roger fynd i nol y llwyth nesaf cafodd y bels ei rhoi yn y sied â handler telesgopig.  Fe wnaeth 5 trip mewn diwrnod er mwyn cwbwlhau’r dasg. Roedd hi’n oer ac yn dywyll erbyn ini orffen ac roeddwn yn ddiolchgar fod Mam wedi bwydo’r plant cyn eu gwersi nofio!
Rydym yn falch o fod wedi gallu cadw y gwartheg godro a rhan fwyaf o’r stoc ifanc allan hyd yn hyn o ganlyniad i’r tywydd da rydym wedi bod yn ei fwynhau yn ddiweddar. Fe borodd ein gwartheg ar gae o maip  wythnos diwethaf a oedd wedi ei tyfu fel rhan o gynllun Tir Cynnal. Fe roedd hi’n mis Mawrth cyn iddynt fwyta’r maip y flwyddyn diwethaf ac erbyn hyny roedd hi’n rhy hwyr, gyda’r  rhan fwyaf ohonynt ei cael eu difetha. Y flwyddyn hon mae’r bwlbiau yn fach ac yn dyner ac mae’r cae wedi ei glurio. Fe wnaethom hel rhai i fwyta ein hunain gan dwi’n mwynhau bwyta cynyrch oddi ar ein tir.
Pan oeddwn yn hel y gwartheg y diwrnod o’r blaen cefais fy synnu wrth weld blodau dwi’n cysylltu gyda’r haf yn y gwrychoedd. Rwyf hefyd â sawl rhosyn pinc yn yr ardd, sy’n dangos nad oes tymhorau pendant dim mwy.
Yn ystod y gaeaf mae Roger yn mynychu sawl cyfarfod trafodaeth amaethyddol, gan gynnwys y gymdeithas tir lle mae sawl cystadlaeaeth yn cael eu cynnal. Rydym wedi bod yn ffodus i ennill rhai cystadlaethau a dod yn ail drwy Gymru yn nghystadlaeath silwair big bêl a chystadlaeath ansawdd llaeth a glendid. Dwi’n edrych mlaen i ’neud lle ar gyfer y cwpanau bu Roger yn eu casglu yn ystod y cyfarfod nesaf!
Fe werthom dau lo yn ein marchnad lleol wythnos diwethaf. Fe werthodd un am £1 a’r llall am £3. Wedi i’r arwerthwyr cymeryd eu comisiwn fe gawsom siec o 65 ceiniog. Fe gostiodd y tag clust £1.50 heb son am gostau eraill sy’n dangos ein bod ar ein colled. Cafodd dau lo Belgian blue eu geni wythnos yma ac mae ffarmwr organig lleol awydd prynnu y ddau gyda buwch i fynd gyda nhw. Da ni’n gobeithio cael pris gwell am rhain i neud fyny am golled wythnos diwethaf.
 
Hydref 2007
Ar ddiwrnod arferol yma ar fferm Clofers bydd Roger yn codi am 5y.b. yn cael paned ac yna yn cerdded i fuarth ein fferm dros ddau gae. Yma bydd yn gollwng y ci ac yn mynd i nôl y gwartheg o’r cae. Mae hi’n dywyll adeg yma o’r flwyddyn ond mae’r gwartheg yn gwybod y drefn a’r ffordd i’r buarth. ’Rydym yn godro 75 o wartheg mewn parlwr sy’n dal chwe buwch ar y tro. Mae’n bwysig fod y chwe buwch cyntaf yn cael ei godro erbyn 6 y.b. er mwyn sirhau fod y godro wedi gorffen cyn 8y.b, sef yr amser y daw y tancer i gasglu’r llaeth.
Gan fod y godro angen ei gwblhau cyn 8y.b nid oes gan Roger amser i ddelio â dim ond y godro peth cyntaf yn y bore. Felly, byddwn yn trafod unrhyw ddigwyddiad sydd angen sylw brys a hefyd yn penderfynnu pwy sy’n symud y ffens drydannol yn nghae y gwartheg er mwyn sicrhau eu bod â glaswellt ffres i bori yn ystod y dydd.
Ar ôl golchi’r palwr godro, bwydo’r lloi a chlurio’r tail o’r buarth bydd Roger yn dod adre am frecwest a gweld y plant am tua hanner awr cyn iddynt fynd i’r ysgol.
Mae ein gwartheg yn lloia drwy’r flwyddyn. Er mwyn iddynt gynhyrchu llaeth rhaid iddynt gael llo bob 12 mis. Bore ma fe stereleiddiodd Roger dethi dwy fuwch â gwirod meddygol ac yna gosod sel tethi sydd heb gwrthfiotig i fewn iddynt. Mae gofalu am dethi y gwartheg yn hanfodol i osgoi mastitis yn ystod cyfnod llaetha.
Wedi iddo gael brecwest bydd Roger yn bwrw ymlaen gyda’r tasgau arferol megis tagio a digornio lloi, tra byddaf yn carthu, chwalu gwlae gwellt a rhoi gwair neu silwair i’r gwartheg sy’n sych a’r heffrod.
Bydd Roger yna’n symud ’mlaen i’r dasg nesa mae wedi ei drefnu am y dydd cyn cychwyn godro eto rhwng 4 - 4.30 y.p.Gan fod y parlwr godro nesa’ i’r tŷ rydym yn cwrdd yn ddyddiol cyn godro pnawn i gael paned a thrafod y dydd. Byddaf yn gwneud nodyn o unrhyw ddigwyddiadau yn fy nyddiadur er mwyn mynd a’r wybodaeth i’r swyddfa a’i gofnodi.
Fe wnawthom lwyddo i gasglu ein trydydd toriad o wair mewn amodau perffaith diwedd mis Medi. ’Roedd sawl barcyd coch yn dilyn y cribyn tra ’roedd yn hel y silwair ar gyfer belio, ond cawsant eu hanfon i ffwrdd gan y bwncathod. Ers ini droi yn organig rydym wedi sylweddoi cynnydd yn y nifer o adar ysglafaethus sy’n hedfan o amgylch y fferm. Yn ystod y gwanwyn tra oedd Roger yn troi roedd pedwararddeg o fwncathod yn bwyta pryfaidgenwair.
’Roedd hi’n wythnos diwethaf cyn i Roger allu clirio’r pit slyri ar gyfer y gaeaf. Roedd hyn oherwydd na allodd wasgaru dim cyn yr ail doriad oherwydd y tywydd gwael. Gan fod glaswellt yn tueddu i dyfu drwy’r flwyddyn yn Sir Benfro dylai’r tir dal fanteisio o’r slyri er ei fod wedi ei wasgaru yn hwyr yn y tymor.


Medi 2007
Croeso i’r rhifyn cyntaf o ’Bywyd ar y fferm’. Rydym yn byw ar fferm yn Sir Benfro ac mae gennym lawer o ffrindiau sydd yn byw i ffwrdd sy’n mwynhau dod i aros ar ein fferm.  Prin oedd amser i newid gwely cyn fod eraill yn dod y flwyddyn hon!

Mae rhai yn awyddus i geisio godro am y tro cyntaf tra bu eraill yn bodloni ar y golygfeydd.  ’Rydym yn tueddu i anghofio am y prydferthwch sydd o’n cwmpas, ond mae sawl un yn ein hatgoffa.  Tybed a fuasent yn credu yr un peth yng nghanol gaeaf!

Un atgof o’r haf hon fu gweld gwahaniaeth yn ymddygiad fy nai tair oed.  O fewn awr fe aeth o fod yn ofn anifeiliaid a baw i roi sylw i lo bach Jersi yn ogystal a tyrchu pryfed genwair o’r ardd.

Mae’r llo nawr yn 12 wythnos oed a ceir ei galw yn ‘Dotty’ (gan fod ganddi bedwar dot wen ar ei choesau).  Roedd Ffion am ei dangos yn nghystadleuaeth yr ifanc yn y sioe leol ond fe roddodd clwy’r traed a’r genau ddiwedd ar hynny. Hwyrach ei fod am y gorau gan fod Dotty yn debyg i’w henw! Mae Ffion yn hoff o fynd a Dotty am dro ond heb rybydd bydd yn mynd ar ei liwt ei hun o amgylch y buarth. ‘Rydym yn ofni bydd hi’n gymeriad ymysg y gwartheg yn y dyfodol!