Mae symbol masnach moesol y Gymdeithas Bridd wedi cael ei gyflwyno i’r sawl sydd ddim eisiau dewis rhwng cynnyrch organig a chynnyrch a gynhyrchwyd yn deg. Rydym yn ymwybodol fod ffermio organig yn dda i’r amgylchedd, ond beth am y rhai sy’n cynhyrchu’r bwyd? Byddai’n ddefrydol cael symbol sydd yn sefyll am bopeth, fel eich bod yn gwybod fod yr amgylchedd, yr anifeiliaid ar gweithwyr wedi cael tegwch. Dyma yn union yw pwrpas cynllun Masnach Moesol gan Gymdeithas Bridd. Mae’r gwybodaeth canlynnol oddi ar wefan Y Gymdeithas Bridd (www.soilassociation.org/ethicaltrade)


Tipyn bach o gefndir…

Fe lansiwyd y cynllun peilot yma yn 2003 gyda’r Sefydliad Masnach Deg. Nod Sefydliad y Masnach Deg a’i batneriaid yw sicrhau fod ffermwyr yn cael pris teg am eu cynnyrch sydd yn cyrraedd costau cynhyrchu eu cynnyrch. Drwy brynnu cynyrch gyda label masnach deg mae’r ffarmwr hefyd yn derbyn premiwm ychwanegol. Bydd hyn yn galluogi i’r sefydliad ail fuddsoddi yn y busnes neu’r gymuned a’r amgylchedd lleol.

Mae’r term masnach deg yn tueddi i fod yn gysylltiedig â ffermwyr y trydydd byd. Fodd bynnag, nid ffermwyr y trydydd byd yn unig sydd ddim yn derbyn taliad sy’n cyrraedd costau cynhyrchu. Mae canran o ffermwyr Prydain yn rhoi gorau iddi gan nad yw hi’n gost effeithiol iddynt barhau. Mae cynllun peilot y Gymdeithas Pridd yn ceisio gwella’r sefyllfa yma yn lleol.

Fe wnaethom weithio gyda Sefydliad Masnach Deg wrth gynllunio’r cynllun peilot hwn er mwyn gweld os oedd môdd cyfuno ei nod sydd yn rannol debyg. Wedi ini ddeall fod eu gawith yn cael ei selio ar gynyrch penodol o wledydd datblygol penderfynwyd i ni weithio arwahan gan gadw mewn cysylltiad agos a’n gilydd. Nid oeddem am gyfyngu y cynnyrch a geir eu tystio yn y cynllun newydd hwn. Ceir ein safon masnach moesol ei roi ar ystod o gynyrch o unrhyw wlad.

Er fod y cynllun peilot wedi derbyn llawer o ddiddordeb gan y sector masnachu, y llywodraeth a’r sector breifat, beth yw ei ystyr?

Beth yw ystr y term ‘masnach moesol’?

Mae’n sefyll dros ethos o fasnachu a rhedeg busnes sydd yn canolbwyntio ar dri elfen penodol:

• Triniaeth deg i’r gweithwyr
• Elw deg i’r ffarmwr
• Cyfraniad bositif i’r gymuned lleol

Mae’r Gymdeithas Bridd wedi ychwanegu rhain fel elfenau gwirfoddol ychwanegol i gydfynd a ofynion organig presennol. Maen’t yn helpu rhoi sylfaen i egwyddorion cymdeithasol organig sydd yn bodoli eisioes. Mae egwyddorion cymdeithasol wedi bod yn rhan mawr o ddatblygiad gofynion organig, bydd hyn yn rhoi cyfle i roi pwyslais ac i amlinellu hygrededd ein gwaith.

Be ddylwn edrych amdano wrth siopa?

Mae’r symbol yn golygu fod y ffarmwr a chwmniau eraill yn y gadwyn wedi cael pris teg am y cynnyrch, fod y gweithwyr wedi eu trin yn deg ac hefyd fod y ffarmwr a’r cwmniau yn ymwneud a chyfrannu i’r gymued leol. Engrhaifftiau o hyn yw fod y fferm yn agored i’r cyhoedd, yn rhedeg cynllun ailgylchu a chompostio neu ellir redeg cynllun sy’n rhannu’r elw.

Rydym eisioes wedi derbyn llawer o ddiddordeb gan gwmniau sydd awydd ymuno â’r cynllun peilot. Tra bu mwy o’r cwmniau yma yn mynd drwy’r broses o ardystiad ac arolygiad gofynnol, bu mwy o gynnyrch masnach moesol ar gael. Llaeth Organig Calon Wen yw’r cynnyrch deri cyntaf i gael y label masnach moesol. Cynnyrch masnach moesol eraill ar y farchnad yw Bwyd fferm Doves, Brecwas grawnfwyd Bio Biz a blawd plaen Doves.

Sut mae’r Gymdeithas Bridd yn sicrhau fod cynnyrch yn cyrraedd gofynion masnach moesol?

Er mwyn i gynyrch gael y symbol mae’n ofynnol i bawb yn y gadwn – o’r cynhyrchwr, proseswr, masnachwr, cyfanwerthwr y mewnforiwr a’r dosbarthwr gydymffurfio â ofynion Masnach Moesol y Gymdeithas Bridd. Bydd yr adran tystio yn gofyn am wybodaeth gan yr holl gwmniau i brofi eu bod yn gymwys ac yna yn rhoi tysysgifau unigol iddynt. Bydd y wybodaeth hefyd yn cael ei wyrio yn flynyddol.

Pa fath o wybodaeth sydd ei angen?

• Termau gweithio ar gyfer gweithwyr parhaol a dros dro, gan gynnwys:

cyflogau, oriau gwaith, disgrifiad swyddi, goramser, dewis ymuno â undebau llafur, trefn cwynion, iechyd a diogelwch, system disgyblaethu, tâl gwyliau, salwch a iawndal anaf yn ogystal a buddion eraill.

• Gwybodaeth ynglyn a perthnasau masnachu megis:

Tryloywdeb a atebolrwydd, dosbarthiad deg o risg a gwobrau, cytundebau hir dymor er mwyn sicrhau sefydlogrwydd a sicrwydd, pris teg sy’n fwy na costau cynhyrchu gyda arian ar gyfer buddsoddi

• Gwybodaeth ynglyn â budd y gymuned leol megis:

Hyfforddiant ar faterion organig a chymdeithasol i staff, gwasanaethau ychwanegol (e.e darpariaeth ar gyfer bwyd organig), rhannu elw neu ecwiti llog, addysgu’r cyhoedd &/neu hyfforddiant o fewn y gadwyn cyflenwi, ymweliadau / mynediad i ffermydd, cefnogaeth neu ymglymiad ac ymchwil organig, cynlluniau ailgylchu a chompostio, marchnata y cynyrch yn lleol.

A all label masnach moesol y Gymdeithas Bridd ei roi ar gynnyrch di-organig?

Na. Mae’n rhaid i gynyrch â logo marchnad moesol fod yn organig a wedi ei dystio gan y Gymdeithas Bridd. Mae hyn yn profi fod y cynnyrch yn cyrraedd safon organig y Gymdeithas Bridd a hefyd safonau masnach moesol y Gymdeithas Bridd.

A yw hyn yn golygu fod cynnyrch sydd heb y logo yma wedi ei gynhyrchu heb ei fasnachu yn foesol?

Na. Mae’r cynllun yma yn rhoi cylfe i gwmniau arddangos eu gwaith da. Nid yw’n golygu fod cynnyrch heb y logo heb ei fasnachu yn foesol na fod y gweithwyr wedi eu trin yn anheg. Mae egwyddorion organig yn ymwneud a materion cymdeithasol a moesol. Mae safonau y Federasiwn Rhyngwladol o Symudiant Amaeth Organig (IFOAM) sydd yn awdurdodi Y Gymdeithas Bridd yn cynnwys canllawiau cymdithasol. Mae rhain yn mynnu y dylai gweithwyr gael amodau lleiafswm gweddus o gyflogaeth sydd yn gyson â chonfensiwn rhyngwladol.