Cwestiynnau poblogaidd

C. Beth yw ystyr yr holl dermau ar y pecynnau?

A. Mae bwyd organig yn fwy na label yn unig. Mae ynglyn â dulliau ffermio a chynhyrchu bwyd sydd yn garedig a’r amgylchedd, sy’n ymwneud â lles anifeiliaid a chred ei fod yn fwy iachus i bobl fwyta.

Drwy brynnu bwyd organig rydych yn cefnogi systemau sydd er eich bydd chi, y ffermwyr neu’r gwneuthurwr sy’n ei gynhyrchu a’r anifeiliaid ar ffermydd orgnaig yn ogystal a chefngwlad.

Dyma rai o gwestiynnau cyffredin ac atebion ynglyn a bwyd organig oddi ar wefan Ffermwyr a chynhyrchwyr organig -(http://www.organicfarmers.org.uk/aboutorganics/faq.php)


C. Ydi bwyd organig yn well ichi?

A. Dwyed rhai astidiaethau ‘ydi’ tra dywed eraill ‘dim o angenrheidrwydd’. Nid oes prawf gwyddolol i gefnogi hyn ar hyn o bryd. Engrhaifft dda yw fod ymchwil wedi dangos fod llaeth organig yn cynnwys bron i ddau draean fwy o asidau brasterog omega 3, sydd yn dda ar gyfer plant heb ei geni a gellir hefyd helpu brwydro yn erbyn clefyd y galon ac crud cymalau.

C. Ydi bwyd organig yn blasu’n well?

A. Dywed y mwyafrif o bobl fod bwyd organig yn blasu’n well. Er hyn, mae’n anodd i wyddonwyr brofi hyn gan ei fod yn destun oddrychol. Mae’n rhaid ichi bendefnynnu dros eich hun.


C. Ydi cynhyrchiant organig o fudd i ffermwyr?

A. Ydi – mewn sawl ffordd. Dywed sawl ffermwr eu bod yn hoffi’r sialens o ddefnyddio eu hymennydd (yn hytrach na chemegion) i ddatrys problemau. Mae’r defnydd o blaladdwyr yn gyfyngedid wrth ffermio drwy ddulliau organig. Bu hyn y lleihau dadleniad y ffermwyr i’r cemegion. Mae tyfu cynyrch organig hefyd y agor marchnadoedd newydd i ffermwyr.

C. Pam fod ffermio organig yn well i’r anifail?

A. Lles yr anifeiliaid yw un o brif egwyddorion ffermio organig ac mae’n rhan o reolau sydd rhaid i gynhyrchwyr organig eu dilyn. Cedwir dwysedd llai o anifeiliaid ar ffermydd organig o gymharu a fermydd confensiynnol ac mae’n ofynnol iddynt gael cyfle i fynd tu allan (yn ddibynnol ar y tywydd) a diet addas o hyd.

Er fod systemau organig yn tueddu i beidio a defnyddio gwrthfiotegau yn eu hanifeiliaid, mae’n ofynnol i’w rhoi os yw bywoliaeth yr anifail mewn peryg neu os yw’r unig modd o wella’r anifiail. Tra bu’r anifiail ar wrthfioteg, ac am gyfnod wedyn ni all yr anifail na’i gynyrch ei werthu fel cynyrch organig. Mae’r cyfnod enciliad dwywaith yn fwy mewn systemau organig o’i gymharu a systemau confensiynnol.

C. A yw anifail organig yn ‘anifail rhydd’?

A. Ydynt, a gyda mwy o fudd. Mae pob anifail sy’n cael ei fagu yn organig yn ‘anifail rhydd’ gan fod o’n rhan o’r rheolau. Mae’n rhaid iddyn nhw gael cyfle i fynd tu allan (yn ddibynnol ar y tywydd) a ceir eu cadw o fewn stoc o dan dwysau arbennig. Maen’t hefyd yn elwa o’r system organig a geir ei egluro trwy’r ddogfen hon.

C. A all bwyd organig gynnwys elfennau AG (GM)?

A. Mae addasiadau genetig o blanhigion ac anifeiliaid yn mynd yn erbyn egwyddorion bwyd a ffermio organig. Ni cheir elfenau AG o fewn systemau organig ac mae cynnyrch sy’n cynnwys AG yn cael ei arddel o’i wethu yn oragnig.


C. Pam fod ffermio organig yn well i’r amgylchedd?

A. Mae ffermio organig yn defnyddio dulliau llai dwys o gynhyrchu cynnyrch ac mae hefyd yn annogi ystod o fwyyd gwyllt. Dywed rhai adroddiadau fod math arbennig o adar yn cynyddu oagmylch ffermydd organig. Mae rheolaeth lym ar y math o blaladdwyr a pryd cant eu defnyddio yn lleihau effeithiau trwytholchi o elfennau niweidiol i gyrsiau d?r a niwed i fywyd gwyllt yn sylweddol. Mae ffermwyr organig yn defnyddio systemau effeithiol o gylchdroi cnydau er mwyn gwella ffrwythlondeb y pridd a gwaredu pla ac afiechydon.

C. A gaiff ffermwyr organig defnyddio plaladdwyr a chemegion eraill?

A. Dim ond nifer cyfyngiedig a blaladdwyr a geir eu cymeradwyo i’w defnyddio wrth ffermio drwy dulliau organig. Cant eu defnyddio pan nad oes dewis naturiol arall ar gael ac yna fel dewis olaf. Ni defnyddir chwynladdwyr gan fferwyr organig, yn hytrach maent yn dibynnu ar gylchdroi cnydau, trin y tir ar yr adeg cywir, chwynnu â llaw neu yn fecanyddol a dewis y math o gnwd yn ofalus.

C. A yw ffermwyr organig yn defnyddio gwrthfiotegau yn eu hanifeiliaid?

A. Dim yn arferol fel a wneir mewn dulliau ffermio eraill. Mae ffermwyr organig yn ceisio defnyddio dulliau holisdig. Fodd bynnag, os mae gwrthfiotig yn angenrheidiol er mwyn osgoi poendod i’r anifail ac er mwyn ei wella bydd ffermwyr yn eu defnyddio ar gyngor milfeddyg. Yn yr amglylchiadau yma lles yr anifail sydd yn dod gyntaf. Tra bu yr anifail ar gwrthfiotig, ac am gyfnod wedyn ni cheir ei gynnyrch ei werthu fel cynnyrch organig. Mae’r cynfnod enciliol yn ddwywaith hirach ar gyfer cynnyrch organig o gymahau a chonfensiynnol.

C. Pam fod bwyd organig yn fwy drud?

A. Mae pris cynnyrch organig yn ddrytach am sawl rheswm da. Mae’n costio’n ddrytach i’w gynhyrchu gan ei fod angen mwy o lafur wrth ei gynhyrchu, ceir cnydau eu tyfu yn llai aml yn yr un darn o dir, ac mae anifeliaid yn cael eu cadw ar lefelau stoc llai dwys er eu lles. Mae’r rheolaeth gofalus sydd ar chynhyrchiant organig (sy’n cynnwys y system drwyddedu) yn cynyddu costau cynhyrchiant, tra bu defnyddiau crai organig megis hadau a bwyd anifail yn ddrytach na rai di-organig. Fodd bynnag, dylid cofio nad oes gan ffermio orgnaig costau amgylcheddol drud, megis glanhau cyrsiau d?r heintus a trin d?r yfed i gael gwared o chemegion a geir eu defnyddio mewn systemau di-organing.

C. A all unrhywun hawlio i fod yn gynhyrchwr organinig?

A. Na. Organig yw’r unig system ffermio ym Mhrydain lle sydd yn rhaid cyrraedd gofynion cyfreithiol i ddefnyddio’r enw. Rhaid i’r sawl sy’n gwerthu cynnyrch organic cael eu arolygu a’u tystio gan gorff megis ‘Organic Farmers and Growers’. Pan fydd ganddynt drwydded mae’n ofynnol i’r cynnyrch gynnwys rhif trwyddedu ar eu labeli. Os cant eu trwyddedu gan OF&G bydd ‘Organic Certification UK2’ ar y label, ond fel Calon Wen a geir ei drwyddedu gan y Gymdeithas Bridd bydd yn ofynnol cael ‘Organic Certification UK5’ ar y labeli. Bu’r sawl sydd yn gwerthu cynnyrch organig heb drwydded yn torri’r gyfraith. Mae cynnyrch organig o dramor yn cynnwys marc trwyddedu o gurff eu gwlad y daw ohonynt, gyda’r mewnforio yn cael ei arolygu gan gorff drwyddedu yr Undeb Ewropeaidd.


C. Sut allai fod yn siwr fod ffermwyr a cynhyrchwyr bwyd yn cadw at ofynion organig?

A. Cyfrifoldeb DEFFRA a’r churff trwyddedu yw sicrhau fod y gofynion yn cael eu cyrraedd. Ceir cynhyrchwyr organig eu arolygu yn flynyddol a hefyd cael archwyliadau heb rybudd i sicrhau eu bod yn cydsynio â’r rheolau.

C. Tydi ffermio organig ddim yn ffordd hen ffasiwn o ffermio?

A. I ryw raddau gellir hyn fod yn wir. Mae ffermwyr organig yn defnyddio gwybodaeth a phrofiad a ddaw drwy oesoedd o ffermio yn hytrach na dibynnu ar gemegau sy’n cael eu defnyddio yn y pumpdeg mlynedd diwethaf. Mae’n ofynnol i ffermwyr fod yn greadigol gyda eu dulliau ffermio yn ogystal a ffordd o farchnata eu cynnyrch. Cred fod organig yw’r dull blaengar o ffarmio a gwerthiant bwyd ac mae’n dangos esiampl da ar gyfer dyfodol adnewyddol. Mae technegau hynafol yn cael eu cefnogi gyda ymchwil a chymeradwyaeth gwyddonnol.

C. Ydi bwyd organig â mwy o beryg gwenwyn bwyd?

A. Mae bwyd organig yn gorfod cyrraedd yr un lefel o ddiogelwch ac ansawdd a bwyd di-organig. Mae’r rhai sy’n feirniadol o ffermio organig yn ceisio dweud fod perygyl uwch o haint pathogen ym mwyd organig gan fod ffermwyr yn defnyddio gwrtaith a ddaw o fuarth y fferm. Fodd bynnag defnyddir gwrtaith o’r buarth wrth ffermio yn ddi-organig a gyda llai o reolaeth nag ar ffermydd organig. Dywed hefyd fod ffermio organig yn gadael bacteria (megis e-coli) i’r gadwyn fwyd drwy beidio a defnyddio gwrthfiotegau yn rheolaidd. Mae ymchwil yn dangos fod gor ddefnydd o wrthfiotegau wedi achosi datblygiad o straeniau gwrthwynebol o E.coli wrth gynhyrchu yn ddi-organig. Mae tystiolaeth ar gael sydd yn awgrymu for anifeiliaid organig yn datblygu gwrthsafiad naturiol yn erbyn y bacteria hyn.

Rydym hefyd yn cynnig atebion i’r cwestiynnau canlynnol sydd yn ymwneud a llaeth organig yn benodol.

C. Beth yw Pastereiddio ?

A. Pastereiddio yw’r broses sydd raid I’r holl laeth a geir ei werthu ar y farchnad agored fynd drwyddo. Mae organebau niweidiol yn cael eu elimineiddio drwy gynhesu y llaeth i dymheredd penodol am gyfnod arbennig.


C. Beth yw Homogeneiddio ?

A. Mae mwyafrif o laeth a werthwyd ym Mhrydain wedi ei homoeneiddio. Nid oes dim manteision meddygol i’r broses. Mae’n broses masnachol sydd yn estyn bywyd silff y llaeth, creu lliw delfrydol ac mae’n rhwystro i’r hufen setlo ar ben y llaeth. Ceir brasterau sydd yn y llaeth ei dorri i lawr drwy eu chwistrellu drwy ffroenelli bach ac yna ei ail ychwanegu i’r llaeth i greu llaeth o liw a sylwedd delweddol.


C. Beth sydd yn dda am laeth organig?

A. Mae llaeth organig yn cynnwys lefelau uwch o fitamin E, gwrthocsidyddion ag asidau brasterog omega 3. Mae gwartheg a fagwyd yn organig yn bwyta lefelau uwch o laswellt ffres, porfa meillionen a silwair porfa meillionen. Maen’t yn gynhyrchu llaeth sydd ar gyfartaledd â 50% mwy o Fitamin E (alpha tocopherol) a dwy i dair gwaith mwy o gwrthocsidyddion lutein a zeaxanthine na llaeth di-organig.


C. Pam prynu llaeth lleol yn Ngymru?


A. Mae dau brif reswn dros brynnu llaeth a gynhyrchwyd yn lleol. Yn gyntaf, mae’r cwsmeriaid yn cefnogi y farchnad leol drwy brynnu llaeth a gynhyrchwyd yn Nghymru. Ac yn ail, mae milltiroedd bwyd yn llai gyda’r llaeth yn ffres gan ei fod yn cael ei brosesu a’i fotelu yn lleol.

* Ffynhonnell: Y gymdeithas Bridd