Ein ffermwyr

Richard Tomlinson – Ffarmwr Organig

Richard Tomlinson


Mae Richard yn dod o gefndir amaethyddol a bu iddo newid ei ffarm i fod yn organig yn 1998. Mae’n briod â Sandy ac mae ganddynt ddau fab.

Mae Richard eisiau bod yn gyfrifol am ei ddyfodol. Mae’n rhan o Llaeth Organig Calon Wen gan ei fod awydd bod yn ymwneud a’i laeth ei hun.

Mae’n awyddus i fod yn agos at ei gwsmeriaid er mwyn cynhyrchu y cynyrch sydd yn apelio atynt.

Mae Richard yn un o sylfaenwyr Calon Wen ac yn gadeirydd y cwmni. Mae’n hôff o feicio a bydd yn aml yn beicio mynyddoedd Gogledd Cymru gada’i deulu.

Dai Miles – Ffarmwr Organig

 Dai Miles

Fe ddysgodd Dai am fasnach ffermio llaeth organig ar fferm Ty Gwyn, sef fferm arbrofol a gaiff ei redeg gan athronfa o ymchwil porfa amgylcheddol yn ngogledd Cymru. Bu wedyn yn ffodus i gael cyfle gwych i redeg fferm laeth organig ei hun fel tenant.

Mae’n ffermio 90 o wartheg ar ei fferm o dros 300 acar ym Mhenfro. Mae’n briod â Sharron ac mae ganddynt dri o blant, merch a dau fab.

Cred Dai y dylai ffermwyr gynhyrchu cynnyrch mae cwsmeriaid awydd eu prynnu, ac i wneud hyn dylent fod yn rhan gweledod wrth ei gynhyrchu.

Mae Dai yn hoff o gerdded ac mae’n hoff o gael help ei deulu ar y ffarm.

Iwan Jones – Ffarmwr Organig

Iwan Jones

Mae Iwan yn ffermio 100 o wartheg ar ei fferm organic 250 acar ger Dinbych. Cychwynnodd drawsnewid ei fferm gonfensinnol i fferm organig yn 1999. ’Roedd yn fferm organig gofrystriedig erbyn 2001. Yn ôl y sôn cafodd seryddwr enwog a dynodd lun cyntaf o fydysawd tu allan i ein hunain yn byw yno.

Dywed “Rwy’n breuddwydio am allu fynd damor heb orfod esbonio lle mae Cymru! Fe hoffwn hefyd cael digon o arian i sefydlu ysgol neu goleg amaethyddol yn Affrica.”

Owen Lort-Phillips - Ffarmwr Organig

alt

Mae Owen yn dod o gefndir amaethyddol gyda’r fferm deuluol wedi bod yn ei deulu ers dros 500 o flynyddoedd. Mae’n cadw gwartheg jersi gan gynnwys ‘cuddles’ sydd yn ffefryn. Mae modd gweld ei wartheg ar dudalen blaen ein gwefan.

Mae’n briod i Laure ac mae ganddynt bedwar o ferched ifanc. Mae’n hoff o Landrovers ers ei ddyddiau gya’r cadets.  Mae hefyd yn hoff o bysgota sydd yn gyfleus iawn gan fod y fferm wedi ei leoli ym Mharc Cenedlaethol arfordirol Sir Benfro. 
Mae Owen yn credu’n gryf yn y dull organig o ffermio yn ogystal â byw yn gynaliadwy. Ei nod yw sefydlu’r fferm gyntaf a geir ei redeg yn ôl egwyddorion ‘One Planet Living’ sef syniadaeth o fyw bywyd gyda chynhyrchu cyn lleied o garbon a phosib a gafodd ei greu gan y WWF.

David Ward – Ffarmwr Organig

alt

Mae David yn parhau traddodiad o dros 250 o flynyddoedd wrth ffermio y fferm deuluol. Mae’n byw gyda’i wraig Hazel a’i ddau fab sydd yn eu harddegau.
 
Mae gan David ffordd wahanol o gadw llygad ar ei fferm – mae’n gwneud hyn mewn balwn awyr! Mae’n un o ddiddordebau David ac mae’n ffodus i gael ffrindiau sydd yn hedfan dros ei fferm.
 
Os byddai gyda awr ychwanegol y dydd byddai’r marchogaeth ei geffyl a hefyd gwario amser yn ei berllan. Mae wedi bod yn datblygu ei berllan dros sawl blwyddyn ac nawr yn tyfu sawl math o gnau a ffrwythau.

Roger a Moira Ridgway - Ffermwyr Organig

alt

Moira yw’r bedwaredd genhedlaeth i ffermio fferm Clofer a gwneir hyn gyda’i gwr Roger. Fe aeth i Aberystwyth i astudio amaeth cyn symud ymlaen i weithio yn Reading. Tra roedd hi yno fe gwrdd â Roger a oedd yna yn gweithio. Fe benderfynodd hwy i ddychwelyd i Gymru i redeg fferm deuluol Moria a magu teulu ei hunain yno.

Mae ganddynt dau o blant sydd yn hoffi helpu ar y fferm. I gael golwg ar yr hyn maent wedi bod yn gwneud ar y fferm y mis yma ewch i dudalennau ‘newyddion o fferm clofer’ ein gwefan lle welwch blog misol Moira.

Allan Rogers – Ffarmwr Organig

alt

Mae Allan a Heather yn ffermio fferm denant gyda tua 150 o wartheg. Pendefynodd Allan fynd yn organig wedi iddo sylweddoli nad oeddynt yn ffermio yn ddwys.   Cred fod dulliau organig yn cydfynd gyda’i syniadaeth a ffordd o ffarmio. Maent hefyd yn hoff o’r cynydd ym mywyd gwyll sydd wedi dod i’r amlwg wedi iddynt fynd yn organig.
 
Mae gan Allan ferch a dau o feibion. Maent yn mwynhau mynd i’r sinema gyda’i gilydd ac hefyd mynd am dripiau cerdded yn aml.
 
Penny yw un o hoff wartheg Allan wedi iddi roi genedigaeth i efeilliaid a gan ei bod yn dipyn o oed erbyn hyn.

Robert Tomlinson

alt

Robert ydi’r pedwerydd cenhedlaeth i ffermio y fferm deuluol, a gwna hyn gyda’i wraig Christina. Mae ganddynt ddau o blant yn eu hugainiau a gafodd eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
 
Aelod arall o’r teulu ydi Jaz y ci. Cafodd ei mabwysiadu o ganolfan achub ac mae hi’n hoff iawn o gael mynd yn y tractor. Mae Skippy y fuwch sy’n sgipio i fewn i’r palwr godro hefyd yn ffefryn gan y teulu.