Eco Pak   alt 

Os ydych yn hoffi ein llaeth byddwch wrth eich bodd gyda’n ffurff werdd o bacio ein llaeth. Mae ar gael mewn eco paks cryf a wneir o LDPE ynghyd a jwgiau sy’n ailgylchadwy.

Mae’r jwg wedi ei ddylunio i ffitio i fewn i ddrws oergell ac mae’n dal un eco pak ar y tro. Mae’r dull yma yn defnyddio 75% llai o blastig na’r botel blastig arferol a bydd yn rhoi rhyddhad i gwsmeriaid sydd yn ceisio gofalu am yr amgylchedd yn ogystal a’r rhai sy’n cael traffeth gyda’r system newydd o gasglu ysbwriel. I roi hyn mewn persbectif, gall potel blastig litr ddal 75 eco pak gwag, felly dychmygwch y cynnydd mewn lle a gewch yn eich bocs ailgylchu!

 

 

Gyda llaeth yn bresennol ar restr siopau y rhan fwyaf ohonom mae’n naturiol yn cyfrannu at ganran helaeth o wast yn y Deyrnas Unedig. Byddai ein ffurf newydd o bacio llaeth yn lleihau hyn. Er engrhaifft, os byddai’r jwg llaeth yn amnewid y poleli plastig byddai yn safio defnyddio tua 100,000 o dunelli o blastig y flwyddyn. Dyma’r rheswm pam yr ydym yn ceisio cael ein eco paks i’ch archfarchnad lleol yn fuan!

Cafodd ein Eco paks Gymeradwyaeth Uchel fel ’Cynnyrch newydd orau’ yn ystod Gwobrwyon Busnes Werdd 2008.

                                  alt