Stocio Ein Cynnyrch...

Masnach

Calon Wen Co-operative supply high quality organic ex farm milk. We offer bulk products that include WMP, SMP, and cream to the trade throughout mainland UK and Europe.
For farm or bulk milk produce enquiries please contact: David Miles - dai@calonwen-cymru.com

Mae Calon Wen wedi cyflenwi cynnyrch llaeth organig cynaliadwy arobryn i sawl sector manwerthu, cyfanwerthu, allforio a gwasanaeth bwyd ers dros 20 mlynedd.

Mae labeli brand a phreifat ar gael.
Mae'r holl gynnych wedi'u hachredu gan BRC.

Am ymholiadau cyffredinol a manylion pellach, cysylltwch â: moo@calonwen-cymru.com

Am ymholiadau cynnyrch wedi'u brandio, cysylltwch â'r Rheolwr Datblygu Busnes a Gwerthu, Stuart McNally: stuart@calonwen-cymru.com

Ein Cynnyrch Organig

Mae allforio yn rhan o'n busnes fel arwydd o hyder yn ansawdd ein cynnyrch. Mae ein hymchwil yn dangos bod ein cynnyrch yn ymarferol addas i ateb y galw cynyddol am gynnyrch llaeth organig o ffynonellau moesegol yn Ewrop, y Dwyrain Canol a marchnadoedd manwerthu a gwasanaeth bwyd yn rhyngwladol. Gallwn fodloni eich gofynion allforio yn y Dwyrain Canol, Ewrop, Hong Kong ac Asia.

Gall ein rhwydwaith o anfonwyr cludo nwyddau profiadol sicrhau eich bod yn cael ansawdd y gwasanaeth sydd ei angen arnoch i wneud mewnforio ein cynnyrch mor syml â phosibl.

Am ymholiadau yn ymwneud ag allforio, cysylltwch â Stuart McNally ar: stuart@calonwen-cymru.com

Mae ein hyder i greu partneriaethau rhyngwladol newydd yn seiliedig ar y canlynol:

  • Ansawdd ein cynnyrch llaeth organig
  • Mae'r cyfleoedd sydd ar gael yn cael eu gyrru gan ein dealltwriaeth o alw a gofynion defnyddwyr
  • Trefn cadwyn gyflenwi sydd wedi'i rheoli'n dda ac yn gost-effeithiol ... o'r fferm i'r llongau
Rydym yn darparu cynnyrch
llaeth organig o ansawdd uchel
Calon Wen